Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiwygio Ariannol

 

Rhannu Ffyniant: Gwasanaethau Ariannol Cynhwysol ar gyfer Datblygu a Thwf Cynaliadwy yng Nghymru

Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Tachwedd 2015 Yn cychwyn am hanner dydd

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer y nodau datblygu cynaliadwy a ddaw drwy ei Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, bydd angen i Lywodraeth Cymru osod cynllun ariannol sy'n gymesur o uchelgeisiol a llawn dyhead er mwyn eu gwireddu.

Mae'r dull traddodiadol o ariannu yn annigonol ac mae newid patrwm mewn cyllid datblygu yn anhepgor. Mae gan gyllid Islamaidd y potensial i chwarae rôl drawsnewidiol o ran helpu i roi agenda ôl-2015 Llywodraeth Cymru ar waith.

Cyflwynodd Akmal Hanuk, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol yr Islamic Banking and Finance Centre, a Dr Ahmad Jamal, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Caerdydd, fodel gwasanaethau ariannol integredig ac arloesol er mwyn cyflawni'r amcanion datblygiad a thwf cynaliadwy drwy gynhwysiant ariannol, dileu tlodi, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac annog menter yng Nghymru. 

Yn bresennol:

Darren Millar AC (Cadeirydd)            Darren.Millar@cynulliad.cymru

Justin Lilley (Ysgrifennydd)     jplilley@outlook.com

Mohammad Asghar AC          Mohammad.Asghar@cynulliad.cymru

Russell George AC                  Russell.George@cynulliad.cymru

Mia Rees                                 Mia.Rees@cynulliad.cymru

Michelle Davis                        michelle@cardiffpound.com

Freya Michaud                        michaud@cardiff.ac.uk

Bill Hudson                              bill.hudson@acecus.org

Joseph Allen                            joseph.allen@abcul.org

Alun Jones                               ajones@wcva.org.uk

Robert Alexander                    r.alexander@eeesafe.com

Sarah Freeman                       sarah.freeman@taicalon.org

Richard Essex                          richard.essex@ntlworld.com

Dave Brown                            cardiffcu@live.co.uk

Dennis Grenall                                    manager@lasacreditunion.org.uk

John Chown                             john@williams-ross.co.uk

Gruffydd Meredith                  sovereignwales@hotmail.com

Laura Nuñez                            Anhysbys

Razwan Nazir                          razwannazir@hotmail.com

Chris Kay                                 v3cjk@hotmail.co.uk

Pa-Modou Sowe                      pmsowe27@yahoo.co.uk

Christopher Coughlan             christophercog@sky.com

Ross Balmer                            ross@clo.uk.com

Indyren Yagambrun                neilturner@ntlworld.com

Neil Turner                              neilturner@ntlworld.com

Mark Hooper                          marc mark.hooper@inspirato.co.uk

Parch. Chris Lewis                   revchrislewis@icloud.com

Graham Coleshill                    gcoleshill@clarkslegal.com

David Wyn Williams               david.wyn@dailingual.cymru

 

 

DM: Sefydlwyd y grŵp hwn i edrych ar addasu System Ariannol Cymru i wella mynediad ac atal diffygion a phroblemau. Mae'n hyfryd gweld cynifer o bobl. Faint o bobl sydd yma am y tro cyntaf? (nifer o ddwylo'n cael eu codi) Mae hynny'n wych!  Croeso i bawb. Heddiw rydym yn mynd i glywed am y bancio traddodiadol a ddefnyddir yn y byd Islamaidd.

AH: Diben heddiw yw rhannu ymchwil a syniadau gyda phawb sy'n bresennol a thu hwnt. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 bellach yn ddeddfwriaeth. Mae'r syniadau'n cefnogi pwyslais ar 'lesiant' o fewn y fframwaith 'twf cynaliadwy'. Mae Nodau Datblygu'r Mileniwm bellach wedi cael eu haddasu i gyd-fynd ag agenda Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Y pwnc heddiw yw Rhannu Ffyniant: Gwasanaethau Ariannol Cynhwysol ar gyfer Datblygu a Thwf Cynaliadwy yng Nghymru.

Yn achos ymrwymiad o'r fath, mae mesur canlyniadau yn hanfodol. Gall hyn fod ar ffurf dadansoddi ansoddol neu feintiol a bydd modd dangos meysydd sylweddol o welliant a dirywiad.

Saith amcan llesiant

1.       Cymru lewyrchus

2.       Cymru gydnerth

3.       Cymru iachach

4.       Cymru sy'n fwy cyfartal

5.       Cymru o gymunedau cydlynus

6.       Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

7.       Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Y cefndir... Ddim yn galonogol iawn

·         Yr argyfwng ariannol

·         Achub y banciau

·         Sgandalau (e.e. PPI, LIBOR, Cyfnewidiadau, ac ati)

·         Cynnydd mewn diweithdra a chyflogaeth annigonol

·         Anghydraddoldeb e.e. mae gan 85 o'r bobl gyfoethocaf yn y byd gymaint o gyfoeth â'r 50% isaf. ~ Christine Lagard IMF

Mae materion dosbarthiad cyfoeth yn achosi problemau i gynghorau lleol a gwasanaethau cyhoeddus wrth i doriadau yn y gyllideb greu heriau, yn rhai hen a newydd.

AJ: Yr argyfwng ariannol

Cymunedau sy'n ei chael yn anodd i gael gafael ar gyllid oedd y man cychwyn. Mae cyllid Islamaidd wedi bod yn llwyddiannus o amgylch y byd ac mae'n tyfu o hyd. Mae hyn yn wir yn y DU fel mewn mannau eraill wrth i fwy o gynhyrchion ariannol gael eu cynnig yn unol ag egwyddorion ariannol Islamaidd.

Nodwyd y bwlch mewn cyllid defnyddwyr, felly ceisiodd yr ymchwil ddeall cymunedau a'u hanghenion ariannol. Er mwyn cyflwyno egwyddorion ehangach Islam, cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda chymunedau a busnesau bach a chanolig. Edrychodd dau fyfyriwr PhD llawn amser ar y cwestiynau Cyllid Islamaidd a Defnydd: Pam Bancio gyda'r Prif Ffrwd? gyda'r ail fater o Elusen: Cymunedau a Rhoddion Mwslimaidd yn cael ei nodi fel mater pwysig.

Edrychodd y grwpiau sampl ar gefndiroedd diwylliannol amrywiol, rhyw, seicoleg, cymhelliant a diffyg cymhelliad, yn ogystal â chrefyddusrwydd, ffydd a barn am gyflogaeth, menter a chyllid busnesau bach a chanolig.

Cyn meddwl am yr her o beth i'w wneud nawr, mae'n rhaid ystyried y cwestiwn ynghylch problem pwy fyddai hyn, neu pwy fyddai'n gyfrifol am ei thrwsio.

"We cannot solve our problems with the same thinking we used when creating them" ~ Einstein

AH: Hierarchaeth Anghenion Ariannol Defnyddwyr - Llwybr i Gynhwysiant Ariannol Llawn

§  Anghenion hollbwysig neu hanfodol fel mynediad i gyfrifon banc diogel a gweithredol.

§  Taliadau a throsglwyddiadau electronig symudol bob dydd.

§  Arbedion a buddsoddiadau hirdymor, gan gynnwys pensiynau, blwydd-daliadau a mwy.

§  Yswiriant ar gyfer diogelu a rhoi iawndal am bethau gwerthfawr.

                                                Fframwaith Moesegol

Ymddiriedaeth                                                                  Ymarferwyr

Uniondeb                                                                            System

Atebolrwydd                                                                     Tryloywder

Haelioni                                                                                Empathi

                                                Lles Cyffredin

                                                Continwwm Llywodraethu

Cydymffurfiaeth                                              Perfformiad

Gweithrediadau Strwythurol                      Creu Gwerth

Adrodd Ariannol                                               Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Gwerth                                                                Cymhwysiad

 Ymddiriedaeth                                                 Egwyddor Ariannol Islamaidd (heb log)

Tryloywder                                                         Cydymffurfio a Rheoleiddio

Atebolrwydd                                                     Moeseg ac Adrodd Ariannol

Haelioni                                                                Datblygu Cymunedol/Economaidd

 

Mae Assaddaqaat yn fenter cyllid datblygu arloesol a chynhwysol newydd. Trwy hyn mae elusen wirfoddol yn dosbarthu rhoddion i achosion da. Mae'r model yn cynnwys cynilion a benthyciadau gan ddefnyddio model undeb credyd. Gellir darparu ar gyfer busnesau bach a chanolig gan ddefnyddio microgyllid i gefnogi busnes heb ehangu dyledion o hyd mewn ffordd sy'n niweidio cynhyrchiant. Mae llawer o opsiynau ar gael i unigolion sy'n chwilio am fuddsoddiadau ecwiti, gan gynnwys menter gymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a chwmnïau cydfuddiannol, ymysg opsiynau eraill. Gellir darparu addysg a hyfforddiant oherwydd bod gwybodaeth yn allweddol i fusnes llwyddiannus.

Creu Gwerth - Gwneud y gwahaniaeth

Elfennau mesuradwy:

i)                    Anghenion dynol sylfaenol

ii)                   Sylfeini llesiant

iii)                 Cyfleoedd

Effaith economaidd-gymdeithasol:

1)      Cynhwysiant ariannol

2)      Dileu tlodi

3)      Annog menter

4)      Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb

5)      Cefnogi menter - masnachol a chymdeithasol

 

Y casgliad... Y camau nesaf

Adnabod pwysigrwydd cynhwysiant ariannol i dwf cynaliadwy a rhannu ffyniant.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru chwarae rhan allweddol.

Partneriaethau cyhoeddus-preifat

Gwasanaethau ariannol fforddiadwy

 

Syniadau i gloi...

Mae yna gyfle i'r rhai sy'n dyheu i wasanaethu'r difreintiedig.

"There is no significant example in history before our time of  a society successfully retaining moral life without the aid of religion" ~ Will Durant (Lessons pf History 1968)

 

Holi ac ateb

GCH: Pwy sydd â mynediad at y gwasanaethau hyn? A ydynt yn unigryw i'r gymuned Fwslimaidd?

AH: Mae hyn wedi symud heibio i agenda sy'n seiliedig ar ffydd. Mae'n gynnyrch prif ffrwd ac nid yw mynediad yn gyfyngedig i un grŵp. Mae'r egwyddorion sylfaenol yn seiliedig ar gyfraith Islamaidd ond mae'r gwasanaeth yno i gefnogi pawb.

Gall y breintiedig ymuno â'r fenter fel rhoddwyr a/neu fuddsoddwyr yn ogystal â defnyddwyr. Er enghraifft, un nod yw datblygu prosiectau lleol gan ddefnyddio rhoddion cymunedol.

DG: Yn Abertawe, mae'r Undeb Credyd (LASA) wedi bod yn gynnyrch sy'n cydymffurfio ag Islam ers tair blynedd. Y prif fater o'n profiadau ni yw dealltwriaeth o'r Egwyddorion Ariannol Islamaidd y mae'r cynnyrch hwn yn eu cynnig i bawb.

DM: Beth allwn ni ei wneud i annog y boblogaeth gyffredinol i edrych ar fancio mwy moesegol? Er enghraifft, nid yw methiannau Banc y Co-op bob amser yn dangos yr enghraifft orau ond gall ddysgu gwersi inni.

AH: Gall deddfwyr a chynrychiolwyr cyhoeddus ledaenu gwybodaeth, edrych ar ddewisiadau eraill, cynigion gwerth, astudiaethau achos a ffyrdd eraill o edrych ar y broblem o ongl newydd. Gyda chefnogaeth llywodraeth leol, mae modd taflu'r rhwyd ​​yn ehangach a chreu perthynas agosach, gan gynnwys egwyddorion moesegol ar gyfer opsiwn ariannol teg a chyfiawn. Gall hyn gynnwys addysg a hyfforddiant, cymorth ariannol a chreu partneriaethau gyda sefydliadau eraill.

CL: Mae unigolyddiaeth wedi arwain pobl i ffwrdd oddi wrth feddwl am y 'Lles Cyffredin'. Mae'r graddau o fenthyca rheibus golygu bod angen i ni gael gwell system ariannol.

DM: Mae'r system undeb credyd yn dioddef o ddiffyg hyder i gyflwyno ystod o wasanaethau. Beth y gellir ei wneud i chwalu'r myth?

DB: Nodweddion o wasanaeth cynhyrchion undeb credyd yn galluogi darpariaeth i gymunedau ehangach.

AH: Mae angen i ni godi statws undebau credyd i'w helpu i gystadlu â banciau'r stryd fawr.

RB: Mae Fair Finance, gan weithio gyda'r Archesgob a'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Credyd, wedi bod yn addysgu cymunedau am opsiynau a datblygu cynhyrchion fel benthyca cyfoedion i gyfoedion a benthyca gwarantwr.

DW: Gyda thoriadau cyni cyllidol yn taro cynghorau lleol yn galed, a oes modd gwneud unrhyw beth i helpu i gadw gwasanaethau fel canolfannau hamdden?

AH: Ie, dyma'r union fath o brosiectau y gallai partneriaethau cymunedol weithio tuag atynt er mwyn cael cyllid at y Lles Cyffredin.

DM: Pwy sy'n penderfynu ble y caiff y gronfa o roddion ei dosbarthu?

AH: Defnyddir arbenigedd rheolwyr buddsoddi i ddadansoddi'r risg o niwed i gynghorau a gwasanaethau ar ôl toriadau cyni cyllidol. Dylid archwilio anghenion y gymuned a dylid dyrannu cyllid lle y gall fod fwyaf o fudd. Gellir gwneud penderfyniadau trwy gonsensws ac ar sail teilyngdod. Byddant oll yn cydymffurfio â'r FCA. Byddai mentrau Ynni Gwyrdd, yn ogystal â helpu ysgolion a chymdeithasau tai, yn ymddangos fel defnyddiau da.

MA: Mae hon yn fenter dda gan fod gan Fwslemiaid draddodiad o roddion i achosion fel rhan o Assaddaqaat.

RG: (Mynegi diddordeb mewn bancio gwledig a gwasanaethau ariannol a sut y gall cyllid Islamaidd helpu yn y maes hwn).

 

Camau gweithredu

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

·         Cysylltu ag Undebau Credyd Cymru

·         Siarad â ffrindiau, teulu a chydweithwyr ac adeiladu cymuned

 

Unrhyw Fater Arall - Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Enwebwyd Darren Millar AC i barhau'n Gadeirydd. Cefnogwyd hyn yn unfrydol.

Enwebwyd Justin Lilley yn Ysgrifennydd. Cefnogwyd hyn yn unfrydol.